Duw tyrd â'th saint o dan y ne

1,2,3,4,(5,6);  1,2,4,5,(6).
Duw, tyrd â'th saint
    o dan y ne, 
O eitha'r dwyrain bell i'r de,
  I fod yn dlawd, i fod yn un,
  Yn ddedwydd ynot ti dy hun.

Un llais, un swn, un enw pur,
O'r gogledd fo i'r dwyrain dir,
  O fôr i fôr, o gylch y byd,
  Sef enw Iesu oll i gyd.

Darfydded son yn mhob rhyw fan
Am ddoniau mawr a doniau gwan:
  Darfydded enwau pob rhyw ddyn:
  Aed oll yn ddim ond ti dy hun.

Na foed gan un pererin mwy
Ganiadau am ddim ond marwol glwy';
  Pan y teyrnasa'i Ysbryd ef,
  Y ddaear dywyll dry yn nef.

O! tyrd ar frys, Iachawdwr mawr,
Disgyned d'Ysbryd yma i lawr,
  Gwna i'r torfeydd
      a brynodd gwaed
  Gyd-gerdded tua'r
      hyfryd wlad: -

Cyd-fyn'd o hyd, dan ganu 'mlaen,
Cyd-ddioddef yn y dŵr
    a'r tân,
  Cyd-gario'r groes,
      cyd-lawenhau,
  A chyd-alaru dan bob gwae.

Amen, Amen! - boed môr a thir
Mewn perffaith hedd, mewn cariad pur,
  Heb ganddynt bleser o un rhyw
  Ond caru'r Iesus mawr
      a'u Duw.
Pan y teyrnasa :: A phan deyrnaso
dywyll :: dywell
chyd-alaru :: chyd-gystuddio

William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Boston (Lowell Mason 1792-1872)
Bryn Dioddef (D Emlyn Evans 1843-1913)
Caernarfon (<1869)
Erfurt / Rhuthyn / Vom Himmel Hoch
    (Martin Luther 1483-1546)
Ernan (Lowell Mason 1792-1872)
Kent (John Frederick Lampe 1703-51)
Mainzer (Joseph Mainzer 1801-51)

gwelir:
  Rhan I - Duw tyr'd â'th saint o dan y ne'
  Dowch addewidion dowch yn awr
  O tyrd ar frys Iachawdwr mawr
  Un llais un swn un enw pur

God, come with thy saints
    from under heaven,
From furthest far east to the south,
  To be poor, to be one,
  Happy in thee thyself.

One voice, one sound, one pure name,
Be from the north to the eastern land,
  From sea to sea, around the world,
  That is the name of Jesus all together.

Let mention fade in every kind of place
Of great gifts and weak gifts:
  Let names fade of every kind of person:
  Let all go to nothing but thee thyself.

Let no pilgrim have henceforth
Songs about anything but a mortal wound;
  When his Spirit shall reign,
  The dark earth shall turn to heaven.

O come quickly, great Saviour!
May thy Spirit descend down here,
  Make the multitudes
      which the blood bought
  Walk together towards
      the pleasant land: -

Go together always, while singing onwards,
Suffering together in the water
    and the fire,
  Carrying the cross together,
      rejoicing together,
  And mourning together under every woe.

Amen, Amen! - let sea and land be
In perfect peace, in perfect love,
  Without having pleasure of any kind
  But the love of the great Jesus
      and their God.
When ... shall reign :: And when ... shall reign
::
mourning together :: afflicted together

tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~